Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, 2017-2020
Tachwedd 1, 2016
Helpu eich plenty gyda Mathemateg
Tachwedd 11, 2016
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, 2017-2020
Tachwedd 1, 2016
Helpu eich plenty gyda Mathemateg
Tachwedd 11, 2016

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

Annwyl Riant,

Tybiaf eich bod wedi clywed am y ‘Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd’ a ddaeth yn stadudol yn ysgolion Cymru ar ddechrau tymor yma fel rhan o broses gwella sgiliau plant a greuwyd gan Lywodraeth Cymru. Defnyddir y fframwaith yma ledled ein gwlad am un reswm yn unig, sef codi safonau.

Fel ysgol, yr ydym yn edrych i ddatblygu sgiliau iaith a mathemateg mewn gwersi penodol yn ystod yr wythnos. Yna rhown gyfle ar draws y cwricwlwm i blant ddefnyddio’r sgiliau yma i ddatblygu Llythrennedd a Rhifedd.

Ar ddechrau broses o’r fath yma, mae’n bwysig rhannu gwybodaeth gennych chi oll mewn gobaith y fyddwch am helpu’ch plentyn ddatblygu’r sgiliau hanfodol. Felly, atodaf fframwaith Rhifedd (1) a Llythrennedd (3) – rhennir llythrennedd i dri agwedd, sef llafar, darllen ag ysgrifennu. Gallwch weld fod y fframweithiau yma’n rhedeg o Ddosbarth Derbyn trwyddo i Blwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd.

*Agorwch atodiad priodol

*Edrychwch am flwyddyn ysgol eich plentyn

*Darllenwch i lawr y golofn i weld y sgiliau

  • Ø Byddwch yn ymwybodol fydd rhai plant am resymau pendant yn gweithio’n uwch neu o dan eu blynyddoedd ysgol.
  • Ø Bydd plant Cyfnod Sylfaen yn defnyddio sgiliau Cymraeg (hyd at blwyddyn 2) ac yna yn y ddwy iaith o flwyddyn 3 ymlaen.

 

Ar ddiwedd y flwyddyn ysgol yma (Hâf 2014)bydd pob plentyn yn derbyn sylwadau ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd yn eu adroddiadau blynyddol. Yn y flwyddyn canlynol, byddwn yn adrodd ar lefel cyrraeddiadau Llythrennedd a Rhifedd pob plentyn.

 

Os hoffwch fwy o wybodaeth, cysylltwch a’ch athro/awes dosbarth.

 

Llythrennedd-Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm

Llythrennedd-Darllen ar draws y cwricwlwm

LLythrennedd-Llafaredd ar draws y cwricwlwm

Rhifedd