Datganiad Grant Amddifadedd Disgyblion Ysgol Rhys Prichard, Llanymddyfri

Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyrannui’r ysgol gyda disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac eu bod yn gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion wneud y defnydd gorau o’r cyllid hwn i weithredu strategaethau cynaliadwy a fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sy’n derbyn gofal.

Fel ysgol, rdym wedi cytuno ar  y tri cham canlynol:

 

  1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  2. i gynllunio ymyriadau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
  3. i fonitro a gwerthuso effaith adnoddau

 

Yn 2021-22 darparwyd  dyraniad Grant Amddifadedd Disgyblion o £34,500 i Ysgol Rhys Prichard

Yn Ysgol Rhys Prichard mae gennym gynllun cynhwysfawr, y cytunwyd arno ac a gaiff ei fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin,  i hyrwyddo cynnydd a dileu rhwystrau i ddysgu ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael y cyllid hwn.

Defnyddiwyd yr arian sydd ar gael i:

  • gwella addysgu a dysgu drwy ddarparu rhaglen gymorth-
  • trefnu data a thargedau asesu ar gyfer y grŵp
  • adnabod disgyblion
  • darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf ac i fod yn gynaliadwy
  • ChATT – Sgrin iaith sgwrsio
  • Rhaglenni Iaith
  • Hwb Ymlaen , Ymyrraeth Mathemateg Dal i Fyny, Numicon
  • Darparu hyfforddiant penodol o ansawdd uchel i staff yr ysgol, gan gynnwys-
    • Hyfforddiant Sgwrsio Cychwynnol – staff cyfan
    • Hyfforddiant Sgwrsio Penodol- LSA’s / ALNCo / Athrawon/ ELSA
    • Hyfforddiant TGCh fel y gall staff fod yn hyderus wrth addysgu gwahanol feddalwedd, er enghraifft HWB,J2E i’w ddefnyddio gyda grwpiau ymyrraeth.
  • gweithredu a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyriadau a monitro effaith.
    • Datblygu rhaglen asesu INCERTS i fonitro cynnydd plant
    • Defnyddio rhaglen asesu INCERTS i asesu anghenion
  • Gwella sgiliau unigol
    • Prynu adnoddau perthnasol i gefnogi a gwella sgiliau unigol e.e. adnoddau Rhifedd/Llythrennedd