Gwisg ysgol

Y wisg ysgol sy’n cael ei gwisgo gan bob disgybl a gellir ei phrynu drwy Parentpay a’i chasglu o Swyddfa’r Ysgol. Ceir mwy o wybodaeth y, mhrosbectws yr Ysgol.

 

Dillad ar gyfer addysg gorfforol

Gofynnwn i’r plant wisgo crys-T (gwyn neu ddu) a siorts du neu glas tywyll ar gyfer eu gwersi addysg gorfforol. Os yw’r tywydd yn oer/wlyb yna mae’n bosibl i blant wisgo trowsus tracwisg ar gyfer gwers Addysg Gorfforol. Cofiwch ysgrifennu enw eich plentyn ar bob dilledyn. Gall disgyblion yn y dosbarth Meithrin   i Flwyddyn 1 wisgo eu dillad Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddiwrnod y wers. Mae angen i ddisgyblion ym mlwyddyn 2-6 ddod â’u dillad Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddiwrnod y wers a newid yn yr ysgol.

 

Prydau Ysgol

Am £2.55 y dydd yn unig, mae disgyblion cynradd yn cael prif bryd dau gwrs i gynnwys opsiwn llysieuol a phwdin. Mae ffrwythau ffres a dŵr yfed hefyd ar gael yn yr ysgol. Mae ein cylchoedd bwydlen yn rhedeg ar sail cylchdro 3 wythnos sy’n cael ei newid ddwywaith y flwyddyn ym mis Mai a mis Hydref i ganiatáu ar gyfer amrywiannau tymhorol.

Rhaid talu prydau ysgol ymlaen llaw, drwy daliadau ar-lein am brydau ysgol gan ddefnyddio ParentPay. Mae Ysgol Rhys Prichard yn defnyddio ParentPay ac os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â swyddfa’r ysgol. Os ydych yn aelwyd incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae pob un o’n bwydlenni yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013 a ddaeth yn ddeddfwriaethol ym mis Medi 2013. Mae’r rheoliadau bwyd hyn wedi’u cynllunio i leihau faint o fraster, siwgr a halen a weinir mewn bwyd ysgol. Drwy gyrchu llai o gynhwysion braster a/neu halen yn ofalus a mabwysiadu arferion da fel pobi popty a stêm, gallwn barhau i ddarparu hoff brydau traddodiadol i ddisgyblion fel cinio rhost traddodiadol, cyrri cartref a reis cartref ac amrywiaeth o brydau  pasta yn ogystal  â   Sbwng Cartref, cwstard a phwdin reis.