Grŵp o ddisgyblion yr ysgol yw’r Cyngor Digidol sydd yn cael eu hethol i gynrychioli llais a barn yr holl ddisgyblion a’u cefnogi gyda sgiliau digidol y disgyblion. Pwrpas y Cyngor yw :-
Rhoi cymorth i staff a disgyblion i ddefnyddio offer digidol yn y dosbarth.
Codi ymwybyddiaeth o faterion E-Ddiogelwch o amgylch yr ysgol ar gyfer disgyblion a staff.
Dysgu, defnyddio a chymhwyso sgiliau llythrennedd digidol newydd.
Helpu i redeg clybiau TGCh yn yr ysgol.
Hyrwyddo a bod yn frwdfrydig am ddysgu digidol.