Symudodd disgyblion a staff Ysgol Rhys Prichard i’w hysgol newydd gwerth £4.3 miliwn ym mis Chwefror 2021.
Mae’r ysgol gynradd wedi symud i hen safle ysgol uwchradd Ysgol Pantycelyn gan gynyddu ei gallu i 240 o leoedd disgyblion gyda darpariaeth ar gyfer Cylch Meithrin allanol wedi’i integreiddio i adeilad newydd yr ysgol.
Yn ogystal â darparu llety llachar ac awyrog a chyfleusterau o’r radd flaenaf, mae hefyd yn cynnwys neuadd fawr y gellir ei rhannu â chymuned Llanymddyfri, cae rygbi, ardal gemau aml-ddefnydd a mannau chwarae caled a meddal.
Mae’r prosiect wedi’i gyflawni fel rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ac mae’n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei menter Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Sicrhawyd grant gwerth £350,000 gan Lywodraeth Cymru i ddarparu’r cyfleuster hamdden ar gyfer y gymuned sydd wedi’i integreiddio i adeilad newydd yr ysgol. Bellach mae Canolfan Hamdden Llanymddyfri yn rhan o’r ysgol.
Cynlluniwyd yr adeilad gan benseiri’r cyngor ei hun a chynhaliwyd y gwaith gan y contractwyr lleol Lloyd & Gravell Ltd.