Siarter Iaith Ysgol Rhys Pricahrd

Mae’r llywodraeth yn anelu i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.   Rydym am chwarae ein rhan i gyflawni y weledigaeth yma.  Rhaid i’r genedl gyfan fod yn rhan o’r daith boed nhw’n siaradwyr Cymraeg rhugl, siaradwyr  cymreig sy’n ddi-hyder wrth ddefnyddio’r iaith neu’n ddysgwyr cymreig.

Ein nod ni fel ysgol yw bod pob plentyn yn dewis ac yn gallu siarad Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywyd a byddant yn ymfalchio yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig. Dymunwn i chi fel rhieni ymuno yn y frwydr gyda ni i gadw’r iaith yn fyw.

Ein her nesaf ydy ennill y wobr Arian!

Criw Cymraeg

Hyrwyddo ethos Cymreig cryf yn ein hysgol a’r cyffiniau.

Darparu ystod o weithgareddau cyfoethog sy’n galluogi pob disgybl i fwynhau dysgu’r Gymraeg.

Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg – ar yr iard, gwrando ar gerddoriaeth cymreig a defnyddio apiau cymreig.   

Hyrwyddo’r Gymraeg ar bob cyfle drwy  ddathlu popeth Cymreig gan gynnwys  diwrnodau arbennig’ fel Mawrth y Cyntaf a ‘Diwrnod Shwmae, Su’mae’ ynghyd â chymryd rhan yng nghystadlaethau’r Urdd.