Gwelediageth

Datblygu disgyblion hapus, iach a dwyieithog sy’n cyflawni eu potensial mewn amgylchedd dysgu cadarnhaol a chofiadwy.

Nod ac amcanion yr Ysgol Rhys Prichard

Cynhwysol

Bod yn ysgol gynhwysol drwy:

  • Gynnig cyfle cyfartal i bawb heb wahanu o ran crefydd, hil, gallu, diwylliant, rhyw ac oedran.
  • Sefydlu perthynas waith da gyda disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned.
  • Barchu ac ennill parch
  • Ddathlu, cofleidio a gwerthfawrogi amrywiaeth.
  • Fabwysiadu polisi drws agored.
  • Werthfawrogi pob person fel unigolyn.

Herio i lwyddo

Byddwn yn herio i lwyddo drwy:

  • Greu amgylchedd dysgu ac addysgu sydd yn hyrwyddo ac ysgogi pawb.
  • Osod targedau uchelgeisiol
  • Ymdrechu i gyrraedd llawn potensial. Ffocysu ar ragoriaeth.
  • Fwynhau her, dathlu a rhannu llwyddiant.

Ysbridoli

Creu amgylchedd ysbrydoledig gyda’r plentyn yn y canol sydd yn annog plant i fod:

  • Yn hapus.
  • Yn hyderus ac annibynnol.
  • Yn barchus.
  • Wedi eu sbarduno.
  • Yn rhannu profiadau a barn.
  • Ag agwedd cadarnhaol
  • Yn gyfeillgar
  • Yn datblygu’n barhaus
  • A ffydd mewn disgyblion a staff
  • Yn gytbwys
  • Yn gymdeithasol
  • Yn chwilfrydig
  • Yn cydweithio
  • Yn ddiogel
  • Yn gweithio i gyrraedd eu potensial

Ethos Gymreig

Dathlu a hyrwyddo ein hiaith a diwylliant drwy:

  • Ennyn brwdfrydedd ac annog parch.
  • Greu ymwybyddiaeth o hanes y wlad, ei datblygiad, cartrefi, bwyd, dillad.
  • Ymweld a lleoliadau hanesyddol a diwylliannol.
  • Hybu adnabyddiaeth o gerddoriaeth ein gwlad- Alawon traddodiadol, gwerin, emynau corawl a dawns.
  • Barchu a hyrwyddo ei thraddodiadau drwy eisteddfodau, cyngherddau a dathliadau.