Absenoldeb

Mae gan rieni gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd a dylent ffonio’r ysgol cyn 9.00 y.b. ar y diwrnod cyntaf o absenoldeb os nad yw eu plentyn yn gallu mynychu’r ysgol. Mae’n ofynnol i bob ysgol gofnodi absenoldeb disgybl naill ai’n awdurdodedig neu heb awdurdod. Os bydd rhieni’n methu â hysbysu’r ysgol am absenoldeb, caiff ei gofnodi’n awtomatig fel absenoldeb heb awdurdod yn erbyn y plentyn. Dylai rhieni roi gwybod i’r ysgol yn ysgrifenedig os yw absenoldeb yn hysbys ymlaen llaw. Mae’r ysgol yn cadw’r hawl ym mhob achos o absenoldeb i bennu’r categori absenoldeb.

Pan fydd plentyn yn cael apwyntiad meddygol yn ystod y diwrnod ysgol dylai rhieni roi gwybod i’r ysgol pryd y bydd y plentyn yn cael ei gasglu. Ni chaniateir i unrhyw blentyn adael yr ysgol oni bai ei fod yn cael ei gasglu gan oedolyn cyfrifol.

Bydd gwybodaeth am gau ysgolion yn ystod tywydd garw yn cael ei darlledu ar Wefan yr Ysgol, Twitter, Tudalen Facebook, Neges destun, Radio Wales/Cymru, Radio Sir Gaerfyrddin ac ar Wefan Sir Gaerfyrddin cyn gynted â phosibl.