Mae trin gwybodaeth bersonol yn gywir gan Ysgol Rhys Prichard yn bwysig iawn wrth gyflwyno addysg i’n disgyblion.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r wybodaeth. Defnyddir y termau ‘gwybodaeth’ a ‘data personol’ drwy’r hysbysiad preifatrwydd hwn ac mae iddynt yr un ystyr.
Er mwyn sicrhau bod yr Ysgol yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cadw’n llawn at ofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi’i gynhyrchu i egluro mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud gyda data personol.
Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol:
- Manylion cyswllt i chi a’ch plentyn
- Dyddiad geni eich plentyn
- Rhyw eich plentyn
- Rhif Disgybl Unigryw
- Cyfansoddiad eich teulu
- Gallu iaith y plentyn
- Manylion addysg
- Lluniau/ffotograffau fel rhan o weithgareddau ein hysgol
- Gwybodaeth am iechyd eich plentyn
- Tarddiad hiliol neu ethnig eich plentyn
- Credoau crefyddol neu athronyddol
Lle bo’n berthnasol, byddwn yn casglu ac yn defnyddio’r canlynol:
- Cymhwyster prydau ysgol am ddim
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- A yw disgybl/plentyn yn Derbyn Gofal gan awdurdod lleol
Rydym hefyd yn defnyddio system TCC (Teledu Cylch Cyfrwng) yn yr ysgol i recordio delweddau. Mae hyn er mwyn cadw’ch plentyn a’n gweithwyr yn ddiogel a gellir ei rannu gyda thrydydd parti yn ôl yr angen.
- Ydyn ni’n defnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd o ffynonellau eraill?
Mae’r Ysgol yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:
- Unrhyw ysgolion blaenorol y mae eich plentyn wedi’u mynychu
- Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Awdurdodau lleol eraill
- Y GIG (Gwasanaeth Iechyd genedlaethol)
Ceir y mathau canlynol o ddata personol:
- Rhif Disgybl Unigryw
- Rhif Adnabod Disgybl
Manylion cyswllt i chi a’ch plentyn
- Cyfansoddiad eich teulu
- Manylion addysg
- Delweddau/ffotograffau
- Gwybodaeth am iechyd eich plentyn
- Tarddiad hiliol neu ethnig eich plentyn
3.Trosglwyddo gwybodaeth dramor
Ni fydd data personol amdanoch chi a’ch plentyn yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
4.Pwy sydd â mynediad i’r wybodaeth a ddefnyddiwn?
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion gyda’r derbynwyr canlynol:
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Llywodraeth Cymru
- Ysgolion eraill
- Consortiwm rhanbarthol Addysg drwy Weithio Rhanbarthol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Canolfan Athrawon – sy’n darparu ein System Gwybodaeth Reoli, gall gael mynediad
at ddata personol pan fyddant yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y system.
- Speakr
- My Concern (system diogelu)
- Sumdog
- Sylfaen Asesu (Taith 360)
Mae sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch
chi, fel:
- Lle mae’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle bo angen datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
- Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data personol yw cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddfau Addysg 1944 i 2014.
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn gael effaith ar addysg a diogelwch eich plenty
5.Am ba mor hir y byddwn yn cadw data personol?
Rydym yn cadw data personol yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion:
6.Eich hawliau Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Gael mynediad at y data personol y mae’r ysgol yn ei brosesu amdanoch
- Gael unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn wedi’i chywiro (wedi’i chywiro)
- Tynnu eich caniatâd i brosesu yn ôl, lle mai dyma’r unig sail ar gyfer prosesu
- Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y corff annibynnol yn y DU sy’n diogelu hawliau gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych yr hawl i:
- Gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol
- Dileu eich data personol
- Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
Gallwch hefyd weld cofnod addysg eich plentyn o dan Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011.
- Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am yr hysbysiad preifatrwydd hwn a’ch hawliau, cysylltwch â swyddfa’r ysgol.
Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chanllawiau pellach ar ddeddfwriaeth Diogelu Data i’w gweld ar wefan yr ICO: www.ico.orq.uk