Gwelediageth
Darparu amgylchedd dysgu ysgogol sy’n ddiogel, yn ysbrydoledig ac yn gynhwysol. Bydd disgyblion yn llwyddo i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol drwy fod yn lythrennog ac yn rhifog, tra hefyd yn datblygu cariad at ddysgu drwy chwilfrydedd a her. Byddwn yn meithrin pob plentyn i fod yn ddinasyddion moesol a gwybodus wrth annog annibynniaeth, gwydnwch a chyfrifoldeb ac i fod yn ystyriol a gofalgar, wrth greu atgofion oes. Ein bwriad yw datblygu unigolion iach ac hyderus drwy gyflwyno ystod eang o weithgareddau llesol ac addysgol i bob plentyn i’w galluogi i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol a galluog.
Nod ac amcanion yr Ysgol Rhys Prichard
Cynhwysol
Bod yn ysgol gynhwysol drwy:
- Gynnig cyfle cyfartal i bawb heb wahanu o ran crefydd, hil, gallu, diwylliant, rhyw ac oedran.
- Sefydlu perthynas waith da gyda disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned.
- Barchu ac ennill parch
- Ddathlu, cofleidio a gwerthfawrogi amrywiaeth.
- Fabwysiadu polisi drws agored.
- Werthfawrogi pob person fel unigolyn.
Herio i lwyddo
Byddwn yn herio i lwyddo drwy:
- Greu amgylchedd dysgu ac addysgu sydd yn hyrwyddo ac ysgogi pawb.
- Osod targedau uchelgeisiol
- Ymdrechu i gyrraedd llawn potensial. Ffocysu ar ragoriaeth.
- Fwynhau her, dathlu a rhannu llwyddiant.
Ysbridoli
Creu amgylchedd ysbrydoledig gyda’r plentyn yn y canol sydd yn annog plant i fod:
- Yn hapus.
- Yn hyderus ac annibynnol.
- Yn barchus.
- Wedi eu sbarduno.
- Yn rhannu profiadau a barn.
- Ag agwedd cadarnhaol
- Yn gyfeillgar
- Yn datblygu’n barhaus
- A ffydd mewn disgyblion a staff
- Yn gytbwys
- Yn gymdeithasol
- Yn chwilfrydig
- Yn cydweithio
- Yn ddiogel
- Yn gweithio i gyrraedd eu potensial
Ethos Gymreig
Dathlu a hyrwyddo ein hiaith a diwylliant drwy:
- Ennyn brwdfrydedd ac annog parch.
- Greu ymwybyddiaeth o hanes y wlad, ei datblygiad, cartrefi, bwyd, dillad.
- Ymweld a lleoliadau hanesyddol a diwylliannol.
- Hybu adnabyddiaeth o gerddoriaeth ein gwlad- Alawon traddodiadol, gwerin, emynau corawl a dawns.
- Barchu a hyrwyddo ei thraddodiadau drwy eisteddfodau, cyngherddau a dathliadau.