Datganiad Grant Amddifadedd Disgyblion Ysgol Rhys Prichard, Llanymddyfri
Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyrannui’r ysgol gyda disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac eu bod yn gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion wneud y defnydd gorau o’r cyllid hwn i weithredu strategaethau cynaliadwy a fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sy’n derbyn gofal.
Fel ysgol, rdym wedi cytuno ar y tri cham canlynol:
- nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
- i gynllunio ymyriadau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- i fonitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2021-22 darparwyd dyraniad Grant Amddifadedd Disgyblion o £34,500 i Ysgol Rhys Prichard
Yn Ysgol Rhys Prichard mae gennym gynllun cynhwysfawr, y cytunwyd arno ac a gaiff ei fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo cynnydd a dileu rhwystrau i ddysgu ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael y cyllid hwn.
Defnyddiwyd yr arian sydd ar gael i:
- gwella addysgu a dysgu drwy ddarparu rhaglen gymorth-
- trefnu data a thargedau asesu ar gyfer y grŵp
- adnabod disgyblion
- darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf ac i fod yn gynaliadwy
- ChATT – Sgrin iaith sgwrsio
- Rhaglenni Iaith
- Hwb Ymlaen , Ymyrraeth Mathemateg Dal i Fyny, Numicon
- Darparu hyfforddiant penodol o ansawdd uchel i staff yr ysgol, gan gynnwys-
- Hyfforddiant Sgwrsio Cychwynnol – staff cyfan
- Hyfforddiant Sgwrsio Penodol- LSA’s / ALNCo / Athrawon/ ELSA
- Hyfforddiant TGCh fel y gall staff fod yn hyderus wrth addysgu gwahanol feddalwedd, er enghraifft HWB,J2E i’w ddefnyddio gyda grwpiau ymyrraeth.
- gweithredu a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyriadau a monitro effaith.
- Datblygu rhaglen asesu INCERTS i fonitro cynnydd plant
- Defnyddio rhaglen asesu INCERTS i asesu anghenion
- Gwella sgiliau unigol
- Prynu adnoddau perthnasol i gefnogi a gwella sgiliau unigol e.e. adnoddau Rhifedd/Llythrennedd