Miss M.E. Morris Head Teacher 1911—1941
February 1, 2012
Governors’ Report to Parents
May 29, 2012

Sefyllfa’r iaith Gymraeg yn yr ysgol 1979-2010 Gan Meiriona Rees

As part of the Schools centenary celebrations in 2010 a book was published, this included the memories written by many of the schools teachers.

Dechreuais fy ngyrfa yn athrawes yn yr ysgol ym mis Medi 1979. Swydd newydd ydoedd gan fod nifer y plant yn y ffrwd Gymraeg wedi cynyddu. Yn y gorffennol, roedd llawer o rieni Cymraeg yn amharod i’w plant dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Llanymddyfri yn cael ei hystyried yn ardal Seisnigaidd iawn. Yr adeg honno, roedd yna densiwn rhwng plant y ddwy ffrwd. Gwelwyd hyn ar iard yr ysgol, ond diolch byth mae’r broblem wedi hen ddiflannu.

Erbyn yr wythdegau, roedd y ffasiwn yn raddol newid ac roedd llawer o blant o gartrefi di-Gymraeg yn mynychu’r ffrwd A. Y cyntaf i wneud hyn oedd Gareth Salt, sydd erbyn hyn yn athro cynradd ac yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion lleol. Wrth weld budd o gael dwy iaith roedd y ffrwd A yn ffynnu. Erbyn hyn roedd mantais gan bobl oedd yn medru’r Gymraeg i gael swyddi cyfrifol yn ein gwlad.

Yn raddol, sefydlwyd y trydydd dosbarth yn y ffrwd A oherwydd poblogrwydd yr iaith. Roedd yna deimlad ei bod hi’n ‘cŵl’ i siarad Cymraeg ar iard yr ysgol. Roedd nifer helaeth o’r disgyblion yn byw ar  ffermydd y tu allan i’r dref, felly roedd naws y wlad yn y dosbarthiadau. Roedd safon iaith y plant yn arbennig o dda, roedd tafodiaith naturiol yn elfen bwysig o’r cyfathrebu o ddydd i ddydd. Felly, roedd yn hawdd boddi’r plant yn iaith y nefoedd.

Erbyn diwedd y nawdegau roedd y sefyllfa wedi newid cryn dipyn. Roedd plant y wlad wedi lleihau oherwydd argyfwng ym myd amaeth a’r bechgyn yn troi at y dinasoedd mawr am swyddi, ond roedd plant di-Gymraeg y dref yn awyddus i fynychu’r ffrwd A. Tasg enfawr oedd hon ond llwyddwyd i addysgu’r plant bach i fod yn gwbl rugl yn y Gymraeg mewn byr amser.

Yn dilyn poblogrwydd addysg Gymraeg roedd y tri dosbarth yn y ffrwd A dan eu sang, felly sefydlwyd  pedwerydd dosbarth er mwyn i’r plant a’r athrawon gael cyfiawnder.

Erbyn hyn, mae pob plentyn sy’n dechrau’r ysgol yn clywed y Gymraeg yn ddyddiol ond rhaid cofio mai penderfyniad y rhieni yw dewis cyfrwng addysg eu plant.

Erbyn heddiw mae’n bleser gweld cyn-ddisgyblion yn dod a’u plant bach i’n hysgol i dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg (er i nifer ohonynt dderbyn eu haddysg yn bennaf trwy gyfrwng  y Saesneg).

Mae agwedd y plant tuag at y Gymraeg wedi newid ac mae holl blant yr ysgol yn cael eu hannog i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd yn lleol a hefyd mynychu Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog, lle maent yn cael eu cymell i siarad yr iaith. Mae plant y ddwy ffrwd wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi cyrraedd y Genedlaethol.

Wrth gwrs, mae Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin yn awyddus i bob plentyn fedru cyfathrebu yn y ddwy iaith erbyn gadael yr ysgol gynradd, a dyna yw ein nod. Felly hir oes i’r Gymraeg yn yr ysgol ac ar yr aelwydydd.

Felly, yn bendant mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu yn ystod y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Mae galw am addysg Gymraeg yn ein hysgol ni wedi mynd o nerth i nerth. Mae deall yr iaith yn allweddol i fyw yn ein cymdeithas heddiw.

YSGOL RHYS PRICHARD 1982

Y rhes gefn Wyn Jones, Lynwen Lloyd,Yvonne Davies,Mrs. M. Rees[athrawes],Carys James, Catrin Stephens, Meleri James, Carwyn Davies ,Eirwyn Williams.

Y rhes flaen Arwyn Williams, Rhys Jones, Gary Williams, Rhodri Rees, Andrew Ingram , Dylan Price, Dorian Williams Andrew Morton,