Memories by Noel Jones – Headteacher 2005 – present
April 18, 2011
Memories by Miriam Evans
May 2, 2011

Memories by Margaret Williams

As part of the Schools centenary celebrations in 2010 a book was published, this included the memories written by many of the schools teachers.  Over the following weeks we will be adding excerpts from these to the website.

Dechreuais i weithio gyntaf yn Ysgol Rhys Prichard ym mis Medi 1997. Dyma oedd fy ail swydd ddysgu.Yn ystod fy nghyfnodau yma ‘dw i wedi cael y profiad gwerthfawr o ddysgu plant o bob oedran a rhaid dweud bod y swydd o fod yn athrawes yma wedi bod yr un mor wobrwyol a phleserus ta beth oedd oed y plant. Mae e’n le dymunol a braf i weithio ac mae croeso cynnes i’w gael yma bob tro.

Yn fuan wedi imi ddechrau dysgu yma daeth diwrnod fy mhriodas. Anghofia i fyth yr olygfa oedd yn fy nisgwyl wrth i mi gerdded allan o’r capel y diwrnod hwnnw. Roedd llu o blant ysgol wedi ymgasglu tu allan i ddymuno’n dda i ni gyda’u pedolau arian yn disgleirio yn yr haul ac i wylio Miss Price yn troi’n Mrs. Williams!

Fel merch sy’n lleol i’r ardal, peth braf ydy cael dysgu o fewn fy milltir sgwar a chael dod ar draws wynebau cyfarwydd o ddydd i ddydd. Hefyd i gael cyfle i ddysgu plant rhai bobl a oedd yn ysgol gyda fi pan oeddwn i yn blentyn fy hun!