Beth yw’r Cyngor Eco?
Grwp o ddisgyblion yr ysgol yw’r Cyngor Eco ysgol sydd yn cael eu hethol i gynrychioli llais a barn yr holl ddisgyblion er mwyn edrych ar ol amgylchedd yr ysgol. Yn ogystal, maent yn hyrwyddo’r 8 maes pwysig sef;
1. Sbwriel
2. Lleihau Gwastraff – e.e. ailgylchu
3. Ynni
4. Dŵr
5. Trafnidiaeth
6. Tir yr ysgol
7. Dinasyddiaeth Fyd-eang
8. Byw’n Iach