Bwydlen Haf 2018
Mai 4, 2018

‘Wythnos Dathlu Gymraeg’

Yn ystod wythnos 23ain – 27ain o Ebrill, dathlodd Ysgol Rhys Pritchard y Diwylliant Cymreig trwy ymgymryd â nifer o weithgareddau cyffrous a diddorol trwy gydol yr ‘Wythnos Dathlu Gymraeg’.

Fel llywodraethwr cyswllt y Siarter Gymreig, ymwelais â’r ysgol ar ddydd Llun 23ain o Ebrill a chael fy nhywys o gwmpas yr ysgol gan Ms Bethan Evans (Cydlynydd Siarter Cymru). Ymwelais â phob grŵp blwyddyn a cael modd i fyw wrth weld y disgyblion yn cofleidio gwahanol agweddau o Ddiwylliant Cymreig oedd yn amrywio o Ddawnsio Gwerin, canu caneuon gwerin Cymraeg, cyfansoddi barddoniaeth, astudio hanes Patagonia a dysgu am chwedlau Cymreig.

Bu’r disgyblion yn cynnal trafodaeth am eu hoff lefydd yng Nghymru a phwy oedd eu harwyr Cymreig. Roedd yn bleser mawr gweld y disgyblion i gyd â gwen ar eu hwynebau ac yn siarad yr iaith Gymraeg mor hyderus. Roedd yn amlwg bod y plant yn mwynhau’r holl gyfleoedd cyffrous roedd eu hathrawon wedi paratoi ar eu cyfer. Da iawn bawb am wythnos lwyddiannus iawn! Da iawn chi gyd!

Wendy Thomas. Rhiant Lywodraeth wraig.