Grant Amddifadedd Disgybl
Gorffennaf 11, 2016
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Tachwedd 11, 2016

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, 2017-2020

question mark with speech bubles, vector on the abstract background

Mae’n ofynnol i Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ddatblygu cynllun sy’n dangos sut y mae’n bwriadu datblygu system addysg sy’n ei gwneud yn bosibl i fwy o ddysgwyr o bob oedran ddatblygu amrywiaeth ehangach o sgiliau iaith yn y Gymraeg. Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau personol, yn gymdeithasol ac yn y gweithle .

Mae Sir Gaerfyrddin yn ymgynghori ar y cynllun ac mae croeso i chi fynegi eich barn. Gallwch weld y cynllun llawn drwy’r ddolen yma i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin-

http://lleoli.sirgar.llyw.cymru/ymgynghoriadau

word pdf

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan y 19eg o Ragfyr, 2016.

Gallwch ymateb trwy gwblhau’r holiadur ar-lein (trwy’r ddolen uchod), neu drwy gwblhau’r fersiwn o’r holiadur sydd ynghlwm a’i ddychwelyd ar e-bost i WESP@sirgar.gov.uk neu drwy’r post i:-

Ymgynghoriad CSyGMA,
Yr Adran Addysg a Phlant,
Adeilad 2,
Parc Dewi Sant,
Caerfyrddin
SA31 3HB.