Yn dilyn llwyddiant diweddar sesiwn e-ddiogelwch, bydd PC Kevin Jones yn ymweld â’n ysgol ar 8fed o Ragfyr 2016, rhwng 4-5pm. Hoffem annog cymaint o rieni â phosibl i ddod draw.
Ydy eich plentyn yn defnyddio iPad / tabled / gliniadur / ffôn symudol?
A ydych yn pryderu am y rhestr sy’n ymddangos yn ddiddiwedd o safleoedd cyfryngau cymdeithasol newydd y gall eich plentyn fod yn cael mynediad iddo?
Os mai’r ateb yw “YDW” i unrhyw un o’r rhain, yna mae’r digwyddiad hwn yn berthnasol i chi.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyngor ar –
• Sut i gadw eich plant yn ddiogel ar-lein
• Pethau syml y gallwch ei wneud i gadw EICH plant yn ddiogel • Cyfryngau cymdeithasol
• Hapchwarae ar-lein
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer rhieni / gofalwyr yn unig , oherwydd natur y pwnc ni fydd plant yn gallu bod yn bresennol. Fodd bynnag, byddwn yn darparu dau staff i oruchwylio eich plant os nad oes gennych drefniadau gofal plant ar gyfer y digwyddiad.
Edrychwn ymlaen at eich gweld.